|
|
|
MWY:
GWOBRAU RAP RADIO CYMRU 2003.
Gai Toms o'r grwp Mim Twm Llai sgoriodd yr hatrick
yn noson wobrwyo RAP Radio Cymru eleni!
Profodd noson wobrwyo roc a pop Radio Cymru eleni bod y grwp Mim
Twm Llai wedi hen ddod allan 'O'r Sbensh'! i fod yn un o brif grwpiau’r
Sîn Roc Gymraeg!
Enwebwyd Mim Twm Llai ar gyfer albwm orau'r flwyddyn yn ogystal
â'r band gorau gyda phrif leisydd y grwp Gai Toms i'w weld
yng nghategori cyfansoddwr ac artist gwrywaidd y flwyddyn. Sgoriwyd
hatrick ar y noson gan i'r grwp gipio'r wobr am albwm y flwyddyn
ac yna Gai Toms yn derbyn y wobr am artist gwrywaidd a chyfansoddwr
y flwyddyn.
Hwn yw'r trydydd tro i Gai Toms gipio'r wobr am gyfansoddwr y flwyddyn
ac mae poblogrwydd albwm Mim Twm Llai ond yn profi ei dalent amlwg
fel cyfansoddwr. Mae'n llwyddo i gyfansoddi a pherfformio caneuon
sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y pethe bach mewn bywyd.
Wrth wrando ar yr albwm gewch gyfle i ddod i adnabod y cyfansoddwr.
Ei ganeuon serch teimladwy ar y gitâr acwstig yn cyfleu teimladau
o gariad a'r caneuon sy'n nodweddiadol o'r 'crac Cymraeg' yn datgan
agwedd y cyfansoddwr at gymdeithas a gwleidyddiaeth.
Er i’r grwp gael ei enwebu mewn pedwar categori mae Gai yn
cyfaddef mai; "Sioc mawr oedd ennill Artist y flwyddyn gan
fod MC Mabon a Aron Jones yn yr un categori, mae'r ddau artist yn
dalentog iawn. Ond ro'n i'n falch iawn o ennill Cyfansoddwr y flwyddyn
am y trydydd tro, Hatrick! Roedd ennill Albwm y flwyddyn yn deimlad
braf nid yn unig i mi ond i'r band Elaine, Phil, Jos a Gary, a hefyd
i bawb a gyfrannodd."
Felly llongyfarchiadau mawr i Mim Twm Llai ac os ydych yn awyddus
i brynu'r albwm mae ar gael yn eich siop Gymraeg lleol ac ar safle
we Sain (http://www.sain.wales.com)
|
|