Albwm newydd

Yr Eira Mawr - Mim Twm Llai

‘Yr Eira Mawr’, casgliad o ganeuon amrywiol a deinamig, sy’n plethu arddulliau gwerin, gwlad, Americana, reggae a roc i greu swn acwstig amgen ac unigryw. Albym 15 trac sy’n cynnwys dehongliad Mim Twm Llai o ‘Pam fod eira yn wyn? gan Dafydd Iwan a ‘Merch y ffatri wlân’ gan Meic Stevens. Ysbrydoliaeth bennaf Mim Twm Llai yw ardal chwarelu Blaenau Ffestiniog, sef bro ei febyd, a chawn gyflwyniad o fywyd a chymeriadau unigryw'r ardal trwy ei ganeuon hwyliog, ffres a chlyfar. Yn ogystal â hyn, clywir cân yn adrodd hanes y bardd enwog, Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) a chaneuon yn cwestiynu materion amgylcheddol a gwleidyddiaeth y byd.

Dyma drydedd ac albym olaf Mim Twm Llai, bydd Gai Toms (prif ganwr a chyfansoddwr) yn parhau i gyfansoddi a recordio o dan enw ei hun ac mi fyddwch yn siwr o weld Gai a’i fand yn perfformio mewn amryw o leoliadau yng Nghymru a thu hwnt yn y blynyddoedd nesaf. Mae ‘Yr Eira Mawr’ ar gael yn eich siop Gymraeg leol, gwefan SAIN neu’n ddigidol ar iTunes.

Prynu'r CD - www.sainwales.com
_________________________________




Mim Twm Llai ar iTunes:-

O'r Sbensh / Straeon y Cymdogion


Hanes Mim Twm Llai

Cysylltu:
Mim Twm Llai
d/o CRAI
Canolfan SAIN
Llandwrog
Caernarfon
Gwynedd
LL54 5TG

ellen@sainwales.com

BLOG myspace
Ewch yma i weld dyddiadau gigs, a'r newyddion diweddaraf gan Mim Twm Llai